
24 Awr yr Wythnos (gan gynnwys penwythnosau)
Cyflog: SCP 3 – £24,796 pro rata
Ydych chi’n angerddol am eich cymuned leol ac yn ymfalchïo mewn cadw mannau cyhoeddus yn lân, yn groesawgar, ac yn ddeniadol?
Mae Cyngor Tref Conwy yn chwilio am Warden Amgylcheddol brwdfrydig a dibynadwy i helpu cynnal a chadw edrychiad a glendid ein cymunedau ledled Conwy, Deganwy a Chyffordd Llandudno.
Mae hon yn rôl amlwg dros ben sydd wrth galon ein cymunedau. Fel un o gynrychiolwyr rheng flaen y Cyngor, byddwch yn chwarae rhan bwysig yn creu argraff gadarnhaol i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd. Bydd eich gwaith yn cyfrannu’n uniongyrchol i sicrhau bod ein cymunedau’n parhau i fod yn lân, yn daclus ac yn fannau braf i fyw, gweithio ac ymweld â nhw.
Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle i fynd ati i wneud gwahaniaeth gweladwy i’r amgylchedd lleol bob dydd. Mae’r Warden Amgylcheddol yn rhan allweddol o’r ymdrech i sicrhau bod Conwy, Deganwy a Chyffordd Llandudno ar eu gorau a sicrhau y gall trigolion ac ymwelwyr ymfalchïo yn eu cymunedau.
Os hoffech chi ffurflen gais, swydd ddisgrifiad a manyleb person, cysylltwch gyda Chlerc y Dref:
E-bost: info@conwytowncouncil.gov.uk
Dydd Gwener, Mehefin y 26ain 2026
Mae Cyngor Tref Conwy yn ymroi i gynnig cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob ymgeisydd cymwys.
...Yn ôl i'r rhestr.
Conwy Town Council
Guildhall
Rose Hill Street
CONWY
LL32 8LD
Ffôn: (01492) 596254
E-bost: info@conwytowncouncil.gov.uk
© 2026 Hawlfraint Cyngor Tref Conwy. Gwefan gan Delwedd.